Isdeitlo ac Adolygu isdeitlau
Gwasanaeth adolygu i S4C
Mae'r gwasanaeth adolygu isdeitlau y mae Testun yn ei gynnig i S4C yn elfen bwysig iawn o'i waith yn y maes. Ers sefydlu'r uned adolygu ym 1994, mae ei chylch gorchwyl wedi cynyddu ac erbyn hyn mae gennym dîm o bump yn gyfrifol am adolygu isdeitlau nifer cynyddol o raglenni ar S4C gan gynnwys S4C digidol a pharatoi fersiynau ar gyfer ailddarllediadau gydag isdeitlau agored. Mae Testun hefyd yn aml yn gyfrifol am greu isdeitlau agored at ddibenion hyrwyddo a marchnata rhaglenni'r sianel a'u dangos mewn gwyliau ffilm a theledu ledled y byd.
Mae'r staff adolygu sydd gennym yn ieithyddion sydd â gafael drylwyr ar y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd. Mae ganddyn nhw'r gallu i olygu a chrynhoi, pennu a yw isdeitlau'n gweddu i'r rhaglen gan wneud penderfyniadau golygyddol yn ôl yr angen. Maen nhw'n gyfarwydd â thrin yr offer isdeitlo gan ymdrin ag agweddau technegol y grefft a chywiro amseriadau pan fo hynny'n briodol.
Mae gan yr adran adolygu hefyd rôl ymgynghorol ac mae'n cynghori ar ddulliau
o ddatblygu'r gwasanaethau ymhellach. Ym mis Mawrth 2008, cyhoeddwyd “Canllawiau
S4C ar gyfer isdeitlwyr yng Nghymru” gan Heulwen L. James, aelod o'n tîm
adolygu. Ers cyhoeddi’r fersiwn gyntaf wyth mlynedd yn ôl, mae’r canllawiau
wedi bod yn sylfaen i osod a chynnal y safonau gorau ymhlith isdeitlwyr
ein gwlad. Maent bellach ar gael ar ffurf ffeil PDF yma ar ein gwefan ni
(gweler isod) ac ar wefan S4C. Trwy eu cyhoeddi mewn ffurf electronig fel
hyn, bydd modd eu diweddaru'n rheolaidd wrth i'r gwasanaeth ddatblygu ymhellach.Y
gobaith yw y bydd y cyfrwng yn denu defnyddwyr ac yn hwyluso ac annog trafod
pellach rhwng pob un sydd â diddordeb yn y maes isdeitlo yng Nghymru.