Hanes y Cwmni
Croeso i wefan cwmni cyfieithu ac isdeitlo Testun Cyf.
Sefydlwyd y cwmni ym 1994, a hynny gan ei gyfarwyddwyr presennol, Geinor Jones a Hywel Pennar. Gyda'r ddau wedi bwrw'u prentisiaeth ym maes cyfieithu ac isdeitlo, cam naturiol oedd sefydlu eu cwmni eu hunain gan roi'r pwyslais ar gynnig gwaith graenus, gwasanaeth cyfeillgar am bris rhesymol ynghyd â chyfleoedd gwaith da ac amgylchedd hapus i'w staff.
Tri oedd yn gweithio i'r cwmni yn y dyddiau cynnar ond wrth i enw da Testun Cyf fynd o nerth i nerth ac i nifer y cleientiaid a'r contractau gynyddu, ymunodd mwy o staff â ni. Ar hyn o bryd, mae pedwar ar hugain ar y staff.
Mae'r mwyafrif yn gweithio o'n swyddfa yng Nghaerdydd neu o'n safle yn S4C, ond rydyn ni hefyd yn cynnig cyfle i weithwyr profiadol weithio o'u cartrefi. Mae un yn gweithio i ni o'i gartref yn Rhostryfan, un arall o'i chartref ger Sanclêr ac un arall yn y canolbarth, ym Mhenffordd-las.
Mae Testun Cyf yn darparu gwasanaethau cyfieithu ac isdeitlo cynhwysfawr i amrywiaeth helaeth o gleientiaid yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein portffolio o gwsmeriaid yn eang dros ben ac yn cynnwys cwmnïau blaenllaw, mudiadau gwirfoddol a chyrff cyhoeddus fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Croeso Cymru, Cyngor Gofal Cymru, S4C a'r BBC.
Os ydych chi eisiau manylion pellach am wasanaeth penodol, cliciwch ar y ddolen berthnasol.