Gwasanaeth Ysgrifennu Copi
Mae Testun yn darparu gwasanaeth ysgrifennu copi a gall baratoi datganiadau i'r wasg ac erthyglau pwrpasol ar eich cyfer. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnwys sicrhau cyhoeddusrwydd yn y wasg a'r cyfryngau.
Felly os oes gennych rywbeth i'w hyrwyddo a'ch bod yn awyddus i gael sylw yn y wasg a'r cyfryngau yng Nghymru, mae croeso i chi gysylltu â ni.