Gweithio i Testun
Mae Testun yn penodi staff newydd yn rheolaidd. Rydyn ni'n cynnig amodau a thelerau gwaith a chyflog cystadleuol ac mae sicrhau amgylchedd swyddfa braf yn bwysig i ni. Rydyn ni hefyd yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn credu mewn sicrhau cydbwysedd teg rhwng bywyd a gwaith - rydyn ni felly'n fodlon trafod amodau gweithio hyblyg gyda darpar staff.
Rydyn ni'n hysbysebu ein swyddi ar y wefan hon ac yn y wasg yn genedlaethol. Mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych am i ni anfon manylion ein swyddi atoch yn y dyfodol.