English

Gwasanaethau Cyfieithu

Mae Testun Cyf yn darparu gwasanaeth cyfieithu cynhwysfawr, o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg, i amrywiaeth eang o gwsmeriaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Rydyn ni'n rhoi pwys mawr ar gynhyrchu gwaith o'r safon uchaf a hynny mewn amser rhesymol ac am bris cystadleuol. Mae sicrhau bod y gwaith yn hawdd i'w ddarllen, yn taro deuddeg gyda'r gynulleidfa darged, yn raenus ac mewn Cymraeg clir yn hollbwysig - ffon fesur bwysig yw a fyddai'r darllenydd yn dewis darllen y Gymraeg yn hytrach na'r Saesneg.

Mae sicrhau ansawdd a chysondeb hefyd yn bwysig iawn i ni ac mae pob darn o waith, boed yn ddogfen hir neu'n hysbyseb byr, yn cael ei olygu'n ofalus gan un o'n tîm o olygyddion profiadol. Mae nifer o'n staff yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae gan ein staff brofiad helaeth o gyfieithu pob math o ddeunyddiau, o adroddiadau blynyddol a chyfrifon i ddeunydd cyhoeddusrwydd a marchnata, datganiadau i'r wasg, cylchlythyron, gohebiaeth dydd i ddydd a hysbysebion brys. Mae gennym hefyd brofiad helaeth o gyfieithu gwefannau yn ogystal â deunyddiau rhyngweithiol (e.e. cryno ddisgiau).

Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys prawf ddarllen a golygu gwaith ar gyfer llawer o'n cleientiaid, a goruchwylio gwaith wrth iddo gael ei argraffu.

Mae gan Testun hefyd y galedwedd a'r feddalwedd ddiweddaraf i hwyluso'n gwaith a gallwn ddarparu cyfieithiadau gan ddilyn union fformat y gwreiddiol. Mae cyfran helaeth o'n gwaith yn cyrraedd ac yn cael ei anfon dros yr e-bost.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth cyfieithu neu os hoffech drafod darn o waith penodol gyda ni, cysylltwch â ni drwy ein ffonio ar 029 2023 1722 neu e-bostio post@testun.co.uk